Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise
and Business Committee
|
|
Leighton Andrews AC Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru
|
|
22 Hydref 2012 |
|
Annwyl Leighton
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14
Ar ran y Pwyllgor Menter a Busnes, hoffwn ddiolch i chi, y Dirprwy Weinidog a'ch swyddogion am ddod i gyfarfod y Pwyllgor ar 17 Hydref fel rhan o'n gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014.
Roedd ein gwaith craffu eleni wedi'i ategu gan ddigwyddiad ymgysylltu a gynhaliwyd gennym ar 27 Medi, lle y bu inni siarad ag ystod o sefydliadau am y blaenoriaethau yr hoffent eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft y Llywodraeth. Gwnaeth sefydliadau o'r sectorau addysg a sgiliau gyfraniad sylweddol hefyd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyllid ar ddyraniadau dangosol y gyllideb ar gyfer 2013-14.
Nodwn fod eich papur yn cynnwys holl fanylion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer pob maes o fewn eich portffolio. Bydd ein gwaith craffu yn canolbwyntio dim ond ar y meysydd hynny sy'n dod o fewn eich cylch gwaith.
Hoffai'r Pwyllgor hefyd wneud nifer o argymhellion i chi eu hystyried. Maent yn ychwanegol at y nodiadau y gwnaethoch gytuno i'w darparu ar faterion fel Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y bu gohebiaeth ar wahân gyda'ch swyddfeydd yn ei gylch.
Rydym yn anfon y llythyr hwn at Bwyllgor Cyllid y Cynulliad i hysbysu ei waith craffu strategol cyffredinol ar y Gyllideb Ddrafft. Bydd ein llythyr a'ch ateb yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Tryloywder yn y gyllideb
Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r gwelliannau a wnaed eleni i'r dull o gyflwyno dogfennau cyllideb y Llywodraeth a'r papur a'r atodiadau yr ydych wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor, a'u heglurder. Croesawn y ffaith hefyd mai'r ffigurau a ddefnyddiwyd fel llinell sylfaen ar gyfer 2012-13 yw'r rheini o Gyllideb Atodol 2012-13 (Mehefin 2012), sy'n ei gwneud yn haws i ganfod a chymharu ffigurau.
Rydym yn falch o nodi bod eich adran wedi gweithio i ail-flaenoriaethu arian o fewn y portffolio Addysg i'w alinio'n well â'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.
Fodd bynnag, mae materion anhysbys o hyd yn eich cyllideb, ac nid oedd yn eglur i ble y mae arian yn cael ei drosglwyddo rhwng rhai cyllidebau a pham. Er enghraifft, ymddengys bod gostyngiad sylweddol o tua £22 miliwn yn y llinell gwariant dysgu seiliedig ar waith rhwng 2012-13 a 2013-14. Fodd bynnag, dywedodd eich swyddogion mai problem o ran y dull cyflwyno oedd hon.
Hoffem ichi egluro'n fwy manwl pam mae arian o'r llinell gwariant dysgu seiliedig ar waith wedi'i ailddyrannu i'r llinell gwariant derbyniadau ôl-16; sut y ceir cydbwysedd gyda'r arian o'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd; a fu unrhyw newidiadau eraill i'r cyllidebau ar gyfer dysgu seiliedig ar waith; a beth allai effaith hyn fod ar ddarpariaeth a chanlyniadau dysgu seiliedig ar waith.
Atebolrwydd
O gofio'r ansicrwydd sy'n bodoli o hyd mewn perthynas â rhai cyllidebau, mae ein Pwyllgor yn awyddus i gynnal sesiwn graffu ar ôl i'r gyllideb gael ei gwario a sesiwn ar atebolrwydd o ran y gyllideb, yn ogystal â'n sesiwn graffu flynyddol ar gynigion y gyllideb.
Hoffem eich gwahodd i ddod gerbron y Pwyllgor yn ystod y 12 mis nesaf i'n galluogi i graffu ar sut y gwnaeth eich cyllideb y llynedd a'r gwariant dilynol gyflawni mewn perthynas â mewnbynnau, allbynnau, canlyniadau a gwerth am arian.
Fforddiadwyedd
Yn ystod y sesiwn graffu ar 17 Hydref, trafodwyd y ddarpariaeth yn eich cynlluniau yng nghyllideb 2013-14 mewn perthynas â Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru). Bu ichi ddweud wrthym fod y cynlluniau yn y camau cynnar gan mai dim ond newydd orffen ymgynghori ar y Bil yr oeddech.
Cyn gynted ag y cyhoeddir y Bil, hoffem ichi egluro goblygiadau ariannol gweithredu Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) ac, yn benodol, sut y bydd yn rhaid i'r gyllideb gynnwys unrhyw newidiadau i rôl a phwyslais Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
Bu inni drafod hefyd y cymhlethdodau o ran modelu ariannol ar gyfer cymorth gyda ffioedd dysgu a sut y bydd niferoedd myfyrwyr a'r niferoedd sy'n croesi'r ffin i'r ddau gyfeiriad yn effeithio ar fforddiadwyedd y grant ffioedd dysgu newydd. Gwnaethoch ein sicrhau bod y system yn "fforddiadwy" mewn gwirionedd, ond hoffem wybod beth fydd effaith ariannu'r grant ffioedd dysgu ar gyllidebau eraill CCAUC.
Gwnaethoch gynnig anfon y ffigurau terfynol ar gyfer nifer y myfyrwyr cofrestredig pan fyddant ar gael ym mis Rhagfyr/Ionawr. Hoffem ichi drafod gyda ni oblygiadau'r ffigurau hynny o ran ariannu'r grant ffioedd dysgu, a fyddant yn effeithio ar y gwaith ar fodelu a wnaed, ac unrhyw effaith y gallent ei gael ar gyllidebau eraill CCAUC a Llywodraeth Cymru. Os bydd bwlch yn ymddangos yn y gyllideb, hoffem wybod sut y bydd yn cael ei lenwi ac o ble y daw'r arian.
Ni wnaethom ganolbwyntio ar ailstrwythuro addysg uwch yn ystod y sesiwn graffu gyda chi ar 17 Hydref, ond roedd gennym ddiddordeb yn eich sylwadau am y broses ddiweddar o uno sawl prifysgol.
A allwch ddweud wrthym pa dystiolaeth sydd gennych o'r arbedion ariannol a gafwyd yn sgîl uno rhai o brifysgolion Cymru yn ddiweddar, neu sy'n debygol o gael eu gwneud?
Blaenoriaethu
Gwnaethom drafod y gostyngiad o £3.3 miliwn yn y gyllideb Cyflogaeth a Sgiliau yn nhermau net o'i gymharu â 2012-13, a gwnaethoch gytuno i ddarparu nodyn ar y mater hwn. Mae cyflogaeth a sgiliau yn hynod arwyddocaol ac maent yn gorwedd wrth wraidd blaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu.
Hoffem ichi egluro yn eich nodyn pa raglenni penodol a fydd yn cael eu heffeithio gan y gostyngiad yn y gyllideb Cyflogaeth a Sgiliau, eich rhesymeg o ran pa raglenni i'w hariannu neu beidio, ac effaith y gostyngiadau.
Gwerth am Arian
Ar 17 Hydref, gwnaethom dreulio peth amser yn trafod y gyllideb arfaethedig ar gyfer Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid. O gofio'r rhwystrau o ran cyllid, a'r ffaith bod nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn aros yn ystyfnig o gyson, rydym yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaeth y bu ichi ei chyfleu ynghylch y diffyg effeithlonrwydd rhaglenni yn y maes hwn, ac rydym wedi ein sicrhau eich bod yn ymrwymedig i wella'r canlyniadau ar sail y gwariant yn y dyfodol.
Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu symleiddio a gwella effeithiolrwydd y rhaglenni ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a sut yr effeithir ar y gyllideb o ganlyniad i hynny. Byddem hefyd yn croesawu'r manylion am sut y byddwch yn ysgogi sectorau eraill i'ch helpu i gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu yn y maes blaenoriaeth hwn.
Gwnaethom hefyd drafod y gostyngiad yn yr arian ar gyfer Dewisiadau Addysg a Gyrfa ac yn benodol yr effaith a gaiff hyn ar allu Gyrfa Cymru (a elwir bellach yn Career Choices Dewis Gyrfa), sydd wedi'i ailstrwythuro, i ddarparu ei wasanaethau.
Hoffem ichi amlinellu pa ganlyniadau yr ydych wedi'u nodi ar gyfer Gyrfa Cymru a sut y byddwch yn asesu ei berfformiad o ran cyflawni ei amcanion.
Prosesau cyllidebu
Gwnaethoch sôn eich bod yn adolygu cynnydd y gwariant o ran eich cyllidebau mewn cyfarfodydd bwrdd polisi misol.
Ar sail canfyddiadau eich arolygon misol, byddem yn croesawu adroddiad pob chwarter sy'n rhoi dadansoddiad manwl o'r canlyniadau a gafwyd yn erbyn y gwariant o fewn cyllideb eich Adran.
Diolch ichi am gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith, ac edrychwn ymlaen at gael eich atebion i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn cyn gynted â phosibl.
Yn gywir
Nick Ramsay AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
c.c. Jocelyn Davies AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid